Sam Rowlands MS for North Wales is calling on farmers in his Region to apply to become the NFU Cymru and NFU Mutual Dairy Stockperson of the Year.
He said:
As a keen supporter of Welsh farmers I always welcome any opportunity to highlight all the hard work they do to keep the nation fed as I think it is vitally important to recognise their contribution.
We all know that Wales produces some of the best quality beef and lamb in the world especially our dairy stockpersons who do so much for the Welsh dairy industry. I think it is great to see those who look after our cattle and sheep receiving recognition for their skills.
I would urge any producers in my region of North Wales to enter the competition or nominate someone they know for this prestigious award.
NFU Cymru and NFU Mutual are looking for the 11th winner of the Welsh Dairy Stockperson of the Year Award to spotlight dedicated, committed and enthusiastic livestock persons from all across Wales. The award winner will receive a £500 and a Welsh slate engraved cheese board.
Jonathan Wilkinson, NFU Cymru Dairy Board Chairman, who will be judging on behalf of the union, said:
As a dairy farmer, I am very passionate about the agricultural industry and championing those individuals who go the extra mile to ensure they have happy, healthy cows is important.
The award aims to recognise the key role that a good dairy stockperson plays in a successful dairy enterprise and the Welsh dairy industry as a whole. Potential award winners will be judged on their care and management of the herd, the breeding programme, their handling skills, their involvement in the dairy enterprise and their knowledge of the dairy industry in Wales.
The closing date for entries is Friday September 27 and the winner will be announced at this year’s Welsh Dairy Show at the United Counties Showground, Carmarthen, on Tuesday October 22, 2024.
For more information regarding the award please visit the NFU Cymru website where you can complete an application form. Alternatively, you can email clare.williams@nfu.org.uk or call the NFU Cymru office on 01982 554200.
Sam Rowlands AS yn cefnogi’r ymdrech i chwilio am bencampwr stocmyn llaeth cenedlaethol
Mae Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar ffermwyr yn ei ranbarth i wneud cais i fod yn Stocman Llaeth NFU Cymru ac NFU Mutual y Flwyddyn.
Meddai:
Fel cefnogwr brwd i ffermwyr Cymru, rydw i bob amser yn croesawu unrhyw gyfle i dynnu sylw at yr holl waith caled maen nhw'n ei wneud i fwydo’r genedl, gan fy mod i'n credu ei bod hi'n hanfodol bwysig cydnabod eu cyfraniad.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod Cymru'n cynhyrchu'r cig eidion a'r cig oen o'r ansawdd gorau yn y byd, yn enwedig ein stocmyn cynnyrch llaeth sy'n gwneud cymaint dros ddiwydiant llaeth Cymru. Rwy'n credu ei bod yn wych gweld y rhai sy'n gofalu am ein gwartheg a'n defaid yn derbyn cydnabyddiaeth am eu sgiliau.
Byddwn yn annog unrhyw gynhyrchwyr yn fy rhanbarth yn y Gogledd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth neu enwebu rhywun y maen nhw’n ei adnabod ar gyfer y wobr fawreddog hon.
Mae NFU Cymru ac NFU Mutual yn chwilio am 11eg enillydd Gwobr Stocman Llaeth y Flwyddyn Cymru i amlygu cynhyrchwyr da byw ymroddedig a brwdfrydig o bob rhan o Gymru. Bydd enillydd y wobr yn derbyn £500 a llechen gaws Gymreig wedi'i naddu.
Meddai Jonathan Wilkinson, Cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru, a fydd yn beirniadu ar ran yr undeb:
Fel ffermwr llaeth, rwy'n angerddol iawn am y diwydiant amaethyddol ac mae hyrwyddo'r unigolion hynny sy'n mynd y filltir ychwanegol i sicrhau bod ganddyn nhw wartheg hapus, iach yn bwysig.
Nod y wobr yw cydnabod y rôl allweddol y mae stocmyn llaeth da yn ei chwarae mewn menter laeth lwyddiannus a'r diwydiant llaeth yng Nghymru gyfan. Bydd darpar enillwyr gwobrau yn cael eu barnu ar sail eu gofal a'u rheolaeth o'r fuches, y rhaglen fridio, eu sgiliau trin, eu cyfranogiad yn y fenter laeth a'u gwybodaeth am y diwydiant llaeth yng Nghymru.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 27 Medi a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Sioe Laeth Cymru eleni ar faes Sioe y Siroedd Unedig, Caerfyrddin, ddydd Mawrth 22 Hydref 2024.
Am ragor o wybodaeth am y wobr, ewch i wefan NFU Cymru lle gallwch lenwi ffurflen gais. Fel arall, gallwch e-bostio clare.williams@nfu.org.uk neu ffonio swyddfa NFU Cymru ar 01982 554200.