
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to get involved with tidying up litter in their communities.
Mr Rowlands, a keen supporter of nature and improving the environment said:
I always like to support efforts to keep our public spaces clean and tidy and would encourage everyone to get involved with Spring Clean Cymru when it takes part in the Great British Spring Clean from Friday March 21 until Sunday April 6.
I think it is a wonderful campaign as it is fantastic to see people working together to make a difference in their communities and it can also be good fun.
Litter continues to blight our local environment and it is vitally important we all take responsibility to collect and safely dispose of it from our streets, green spaces and beaches.
There are several events planned for North Wales including areas in Flintshire and Wrexham and along the coast and I would urge everyone to get involved and help protect our environment and keep our communities free from litter.
Spring Clean Cymru is part of the Great British Spring Clean, which is run in England and Scotland by Keep Britain Tidy and Keep Scotland Beautiful.
The organisation wants to inspire thousands of litter heroes across Wales to come together to collect and safely dispose of litter from our streets, green spaces and beaches.
This year, the message is simple. Show you ‘love where you live’ by pledging to pick up as much litter as you can between March 21 and April 6.
Each year, Wales spends around £70 million clearing up litter – that’s money that could be spent on public services like social care and education.
Litter harms marine and local wildlife. RSPCA Cymru receive an average of 14 calls a day about animals affected by litter, with calls spiking in the summer months.
Research also shows that people feel less safe when an area looks littered and uncared for.
For more information and notifications of events in your area go to https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru/
Sam Rowlands AS yn cefnogi Gwanwyn Glân Cymru 2025
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gymryd rhan yn y gwaith o dacluso sbwriel yn eu cymunedau.
Meddai Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd o natur a gwella'r amgylchedd:
Rwyf bob amser yn hoffi cefnogi ymdrechion i gadw ein mannau cyhoeddus yn lân ac yn daclus a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yng Ngwanwyn Glân Cymru pan fydd yn digwydd fel rhan o Wanwyn Glân Prydain Fawr o ddydd Gwener 21 Mawrth tan ddydd Sul 6 Ebrill.
Rwy'n credu bod hon yn ymgyrch wych gan ei bod mor braf gweld pobl yn gweithio gyda'i gilydd i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau a gall hefyd fod yn dipyn o hwyl.
Mae sbwriel yn parhau i ddifetha ein hamgylchedd yn lleol ac mae'n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb i'w gasglu a'i waredu'n ddiogel o'n strydoedd, mannau gwyrdd a thraethau.
Mae sawl digwyddiad wedi'i drefnu ar gyfer Gogledd Cymru, gan gynnwys ardaloedd yn Sir y Fflint a Wrecsam ac ar hyd yr arfordir a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan a helpu i ddiogelu ein hamgylchedd a chadw ein cymunedau'n rhydd rhag sbwriel.
Mae Gwanwyn Glân Cymru yn rhan o Gwanwyn Glân Prydain Fawr, sy'n cael ei redeg yn Lloegr a'r Alban gan Keep Britain Tidy a Keep Scotland Beautiful.
Mae'r sefydliad eisiau ysbrydoli miloedd o arwyr sbwriel ledled Cymru i ddod at ei gilydd i gasglu a gwaredu sbwriel o'n strydoedd, mannau gwyrdd a thraethau mewn ffordd ddiogel.
Eleni, mae'r neges yn syml. Dangoswch eich bod chi'n 'caru lle rydych chi'n byw' trwy addo codi cymaint o sbwriel ag y gallwch chi rhwng 21 Mawrth 21 a 6 Ebrill.
Bob blwyddyn, mae Cymru'n gwario tua £70 miliwn yn clirio sbwriel – arian y gellid ei wario ar wasanaethau cyhoeddus fel gofal cymdeithasol ac addysg.
Mae sbwriel yn niweidio bywyd gwyllt morol a lleol. Mae RSPCA Cymru yn derbyn 14 galwad y dydd ar gyfartaledd am anifeiliaid yr effeithir arnyn nhw gan sbwriel, gyda galwadau yn cynyddu yn ystod misoedd yr haf.
Dengys ymchwil hefyd bod pobl yn teimlo'n llai diogel pan fydd ardal yn edrych yn flêr a heb ofal.
I gael rhagor o wybodaeth a hysbysiadau am ddigwyddiadau yn eich ardal chi, ewch i https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/gwanwyn-glan-cymru/