Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to get involved with tidying up litter in their communities.
Spring Clean Cymru and the Great Big School Clean are back for 2026 and Mr Rowlands is supporting a call for individuals, families, groups, schools and businesses to take action between 13 and 29 March.
Mr Rowlands, a keen supporter of nature and improving the environment said:
I always like to support efforts to keep our public spaces clean and tidy and encourage everyone to get involved with events being held in their locality or even organise something themselves.
Litter is a blight on our local environment and it is vitally important we all take responsibility to collect and safely dispose of it from our streets, green spaces and beaches.
It is a wonderful campaign and fantastic to see people working together to make a difference in their communities and it can also be good fun.
I know there are several events planned in the Wrexham and Flintshire areas, including Penycae and Wepre Park in Connah’s Quay and I would urge everyone to get involved and help protect our environment and keep our communities free from litter.
Spring Clean Cymru and the Great Big School Clean are part of the Great British Spring Clean and in Wales the initiative is led by Keep Wales Tidy (Cadwch Gymru'n Daclus) as part of their Caru Cymru ("Love Wales") project, which encourages individuals, communities, schools, and businesses to take action against litter.
Since 2016, tens of thousands of litter heroes have shown they love where they live by collecting tonnes of litter and recycling. In 2024, thousands of volunteers in Wales collected over 4,000 bags of litter.
Wales spends roughly £70 million annually on clearing up litter, money that could otherwise be used on public services
Whether you are a seasoned pro, or new to litter picking, Keep Wales Tidy has got all the information and advice you need to get started.
For details of open events that are being run by their teams, community groups and other organisation go to https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/spring-clean-cymru/
Sam Rowlands AS yn cefnogi Gwanwyn Glân Cymru 2026
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i gymryd rhan mewn digwyddiadau tacluso sbwriel yn eu cymunedau.
Mae Gwanwyn Glân Cymru a'r Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion yn ôl ar gyfer 2026 ac mae Mr Rowlands yn cefnogi galwad ar i unigolion, teuluoedd, grwpiau, ysgolion a busnesau weithredu rhwng 13 a 29 Mawrth.
Meddai Mr Rowlands, sy’n gefnogwr brwd o natur a gwella'r amgylchedd:
Rydw i bob amser yn hoffi cefnogi ymdrechion i gadw ein mannau cyhoeddus yn lân ac yn daclus ac yn annog pawb i gymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yn eu hardal neu hyd yn oed i drefnu rhywbeth eu hunain.
Mae sbwriel yn warth ar ein hamgylchedd lleol ac mae'n hollbwysig ein bod ni i gyd yn cymryd cyfrifoldeb i'w gasglu a'i waredu'n ddiogel o'n strydoedd, mannau gwyrdd a thraethau.
Mae'n ymgyrch wych ac mae’n dda gweld pobl yn gweithio gyda'i gilydd i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau, ac mae’n gallu bod yn dipyn o hwyl hefyd.
Rwy'n gwybod bod sawl digwyddiad wedi'i drefnu yn ardaloedd Wrecsam a Sir y Fflint, gan gynnwys Penycae a Pharc Gwepra yng Nghei Connah a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan a helpu i ddiogelu ein hamgylchedd a chadw ein cymunedau yn rhydd rhag sbwriel.
Mae Gwanwyn Glân Cymru a'r Ymgyrch Fawr i Lanhau Ysgolion yn rhan o ymgyrch Prydain Fawr i lanhau yn y gwanwyn ac, yng Nghymru, mae'r fenter yn cael ei harwain gan Cadwch Gymru'n Daclus fel rhan o'u prosiect Caru Cymru, sy'n annog unigolion, cymunedau, ysgolion a busnesau i gymryd camau yn erbyn sbwriel.
Ers 2016, mae degau o filoedd o arwyr sbwriel wedi dangos eu bod yn caru eu cartref trwy gasglu tunelli o sbwriel ac ailgylchu. Yn 2024, casglodd miloedd o wirfoddolwyr yng Nghymru dros 4,000 o fagiau o sbwriel.
Mae Cymru'n gwario tua £70 miliwn ar glirio sbwriel bob blwyddyn, arian y gellid ei ddefnyddio fel arall ar wasanaethau cyhoeddus
P'un ai eich bod wedi hen arfer, neu'n newydd i godi sbwriel, mae gan Cadwch Gymru'n Daclus yr holl wybodaeth a chyngor sydd eu hangen arnoch i ddechrau arni.
Am fanylion am ddigwyddiadau agored sy'n cael eu cynnal gan eu timau, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill, ewch i https://keepwalestidy.cymru/caru-cymru/cy/gwanwyn-glan-cymru/