
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on farmers in his region to enter a competition to recognise their contribution to farming enterprises.
Mr Rowlands, a keen supporter of farmers, is backing NFU Cymru and sponsors Wynnstay Group, who have launched the Sustainable Agriculture Award 2025.
He said:
We all know how hard our farmers work every day to keep the nation fed and it is good to see an award which recognises the contribution Welsh farming enterprises make to Wales
This is a fantastic opportunity for farmers in North Wales to highlight examples of their sustainable farming ideas and enterprises.
There are many farmers in North Wales who have stepped outside the box and developed ideas which have become very successful and I would urge everyone to enter the competition.
The NFU Cymru / Wynnstay Group Sustainable Agriculture Award will be awarded to the farm or farmer who can demonstrate a commitment to the production of high-quality food to world leading standards; demonstrate their positive contribution to protecting, maintaining and enhancing the quality of the farmed environment and demonstrate their involvement and contribution to the rural economy, rural community and Welsh culture.
The winner of the award will receive £500 and a commemorative accolade. The closing date for entries is Monday 1st September 2025.
NFU Cymru Rural Affairs Board Chairman Hedd Pugh said:
Welsh farmers make an unparalleled contribution to the economic, environmental, social and cultural well-being of Wales. Alongside producing high quality food to world leading standards, farmers manage over 80% of the land area of Wales playing a crucial role protecting, maintaining and enhancing the farmed environment.
Welsh farmers are key drivers of our rural economy and are the very heart of our rural communities, the Welsh language and culture.
The NFU Cymru / Wynnstay Group PLC Sustainable Agriculture Award aims to recognise the economic, environment, social and cultural contribution of farming in Wales and will be awarded to the farmer judged to have achieved the most outstanding example of sustainable farming business in Wales.
Nominations are invited from farms and/or farmers throughout Wales. Farmers are invited to nominate themselves or they can be nominated by friends, relatives or organisations. Nomination forms are available for completion on the NFU Cymru website. Alternatively, please contact the NFU Cymru office by emailing [email protected] or telephoning 01982 554200.
Shortlisted candidates will be interviewed at their farm by the judging panel during September and October and the winner will be announced at the NFU Cymru Conference on Thursday 6th November 2025.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar ffermwyr yn ei ranbarth i gymryd rhan mewn cystadleuaeth i gydnabod eu cyfraniad i fentrau ffermio.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd i ffermwyr, yn cefnogi NFU Cymru ac yn noddi Grŵp Wynnstay, sydd wedi lansio Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy 2025.
Meddai:
Rydyn ni i gyd yn gwybod pa mor galed mae ein ffermwyr yn gweithio bob dydd i fwydo’r genedl ac mae'n dda gweld gwobr sy'n cydnabod y cyfraniad y mae mentrau ffermio Cymru yn ei wneud i Gymru.
Dyma gyfle gwych i ffermwyr yn y Gogledd dynnu sylw at enghreifftiau o'u syniadau a'u mentrau ffermio cynaliadwy.
Mae yna lawer o ffermwyr yn y Gogledd sydd wedi mynd yr ail filltir a datblygu syniadau sydd wedi dod yn llwyddiannus iawn a byddwn yn annog pawb i gymryd rhan yn y gystadleuaeth.
Bydd Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy NFU Cymru/ Grŵp Wynnstay yn cael ei dyfarnu i'r fferm neu'r ffermwr sy'n gallu dangos ymrwymiad i gynhyrchu bwyd o ansawdd uchel i safonau gorau’r byd; gan ddangos eu cyfraniad cadarnhaol at warchod, cynnal a gwella ansawdd yr amgylchedd ffermio, ynghyd â’u cyfranogiad a'u cyfraniad at yr economi wledig, y gymuned wledig a diwylliant Cymru.
Bydd enillydd y wobr yn derbyn £500 a gwobr goffa. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 1 Medi 2025.
Meddai Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru, Hedd Pugh:
Mae ffermwyr Cymru yn gwneud cyfraniad digyffelyb at les economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru. Ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd o ansawdd uchel i safonau gorau’r byd, mae ffermwyr yn rheoli dros 80% o arwynebedd tir Cymru gan chwarae rôl hanfodol yn gwarchod, cynnal a gwella'r amgylchedd sy’n cael ei amaethu.
Mae ffermwyr Cymru yn ysgogwyr allweddol i'n heconomi wledig ac yn galon i’n cymunedau gwledig, yr iaith a'r diwylliant Cymraeg.
Nod Gwobr Amaethyddiaeth Gynaliadwy NFU Cymru/ Wynnstay Group PLC yw cydnabod cyfraniad economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol a diwylliannol ffermio yng Nghymru a bydd yn cael ei dyfarnu i'r ffermwr y bernir ei fod wedi cyflawni'r enghraifft sy’n rhagori o fusnes ffermio cynaliadwy yng Nghymru.
Gwahoddir enwebiadau gan ffermydd a/neu ffermwyr ledled Cymru. Gwahoddir ffermwyr i enwebu eu hunain neu gallant gael eu henwebu gan ffrindiau, perthnasau neu sefydliadau. Mae ffurflenni enwebu ar gael i'w llenwi ar wefan NFU Cymru. Fel arall, cysylltwch â swyddfa NFU Cymru drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 01982 554200.
Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu cyfweld ar eu fferm gan y panel beirniaid yn ystod misoedd Medi a Hydref a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yng Nghynhadledd NFU Cymru ddydd Iau 6 Tachwedd 2025.