Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a national campaign aimed at tackling knife crime.
Mr Rowlands is supporting North Wales Police who are once again joining forces across the country to take part in ‘Operation Sceptre’ a national week of action to tackle knife crime.
Running from 17 - 23 November, the campaign brings together all 43 police forces and British Transport Police in a coordinated push to reduce knife-related crime, a significant driver of violence across the UK.
Mr Rowlands said:
I am delighted to once again support ‘Operation Sceptre’ which highlights the growing problem of knife crime.
It is good to see all 43 police forces throughout the UK and the British Transport Police joining together on this and helping to make everywhere a safer place for us all.
These days we seem to be hearing about more and more incidents involving knives and the operation is a great way of raising awareness and encouraging people to stop carrying knives and take part in the week long amnesty.
I would urge anyone in North Wales with unwanted knives to safely dispose of them in amnesty bins located at police station front counters and selected recycling centres.
As part of the week long initiative, in Wrexham and Flintshire members of the public are being urged to safely dispose of unwanted knives in permanent amnesty bins at police stations in Wrexham, Mold, Deeside. Additional amnesty bins will also be available at recycling centres in Wrexham (Bryn Lane), Lodge House, Brymbo, Plas Madog and Greenfield.
Community Safety Sergeant Claire Parry said:
Every knife taken off the streets makes our communities safer. Carrying a knife doesn’t protect you - it puts you at greater risk of harm. We want people to think twice, make the right choice, and use this week as an opportunity to hand in any unwanted knives or weapons. Together, with our partners and communities, we can stop knives from ruining lives.
Much of the week’s activity will focus on education and prevention. School Community Police Officers will visit schools and colleges across North Wales, engaging with young people about the dangers and consequences of carrying a knife. Parents and carers are also being asked to play their part by having open conversations with young family members about the risks.
In addition, police are reminding the public that changes introduced under the Offensive Weapons Act 2019 mean it is now illegal to possess items such as knuckledusters, throwing stars, and zombie knives, even in private.
Anyone with concerns about someone carrying or hiding a knife is urged to contact police on 101, or report anonymously via CrimeStoppers (0800 555 111) or the Fearless campaign website (Give information about crime 100% anonymously | Fearless | Crimestoppers). Always dial 999 in an emergency.
Sam Rowlands AS yn cefnogi amnest cyllyll wythnos o hyd yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch genedlaethol gyda'r nod o fynd i'r afael â throseddau cyllyll.
Mae Mr Rowlands yn cefnogi Heddlu Gogledd Cymru sydd unwaith eto yn ymuno â heddluoedd eraill ledled y wlad i gymryd rhan yn 'Ymgyrch Sceptre', wythnos genedlaethol o weithredu i fynd i'r afael â throseddau cyllyll.
Yn rhedeg rhwng 17 a 23 Tachwedd, mae'r ymgyrch yn dod â phob un o'r 43 heddlu a Heddlu Trafnidiaeth Prydain ynghyd mewn ymdrech gydgysylltiedig i leihau troseddau sy'n gysylltiedig â chyllyll, sy'n sbardun sylweddol o drais ledled y DU.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy'n falch iawn o gefnogi 'Ymgyrch Sceptre' unwaith eto, sy'n tynnu sylw at y broblem gynyddol o droseddau cyllyll.
Mae'n dda gweld pob un o'r 43 heddlu ledled y DU a Heddlu Trafnidiaeth Prydain yn dod at ei gilydd a helpu i wneud pob man yn lle mwy diogel i ni i gyd.
Y dyddiau hyn, mae'n ymddangos ein bod yn clywed am fwy a mwy o ddigwyddiadau sy'n ymwneud â chyllyll ac mae'r ymgyrch yn ffordd wych o godi ymwybyddiaeth ac annog pobl i roi'r gorau i gario cyllyll a chymryd rhan yn yr amnest wythnos o hyd.
Byddwn yn annog unrhyw un yn y Gogledd sydd â chyllyll diangen i'w gwaredu'n ddiogel mewn biniau amnest sydd wedi'u lleoli ar gownteri blaen gorsafoedd heddlu a chanolfannau ailgylchu dethol.
Fel rhan o'r fenter wythnos o hyd, mae aelodau o'r cyhoedd yn Wrecsam a Sir y Fflint yn cael eu hannog i waredu cyllyll diangen yn ddiogel mewn biniau amnest parhaol mewn gorsafoedd heddlu yn Wrecsam, Yr Wyddgrug a Glannau Dyfrdwy. Bydd biniau amnest ychwanegol hefyd ar gael mewn canolfannau ailgylchu yn Wrecsam (Lôn y Bryn), Lodge House, Brymbo, Plas Madog a Maes-glas.
Dywedodd y Rhingyll Diogelwch Cymunedol Claire Parry:
Mae pob cyllell sy'n cael ei thynnu oddi ar y strydoedd yn gwneud ein cymunedau yn fwy diogel. Nid yw cario cyllell yn eich amddiffyn - mae'n eich rhoi mewn mwy o berygl o niwed. Rydyn ni eisiau i bobl feddwl ddwywaith, gwneud y dewis cywir a defnyddio'r wythnos hon fel cyfle i gyflwyno unrhyw gyllyll neu arfau diangen. Gyda'n gilydd, gyda'n partneriaid a'n cymunedau, gallwn atal cyllyll rhag difetha bywydau.
Bydd llawer o weithgarwch yr wythnos yn canolbwyntio ar addysg ac atal. Bydd Swyddogion Cymuned Ysgol yr Heddlu yn ymweld ag ysgolion a cholegau ledled y Gogledd, gan ymgysylltu â phobl ifanc am beryglon a chanlyniadau cario cyllell. Gofynnir i rieni a gofalwyr hefyd chwarae eu rhan trwy gael sgyrsiau agored gydag aelodau ifanc o'r teulu am y risgiau.
Yn ogystal, mae'r heddlu'n atgoffa'r cyhoedd bod newidiadau a gyflwynwyd o dan Ddeddf Arfau Ymosodol 2019 yn golygu ei bod bellach yn anghyfreithlon meddu ar eitemau fel dyrnau haearn, sêr taflu a chyllyll ‘zombie’, hyd yn oed yn breifat.
Anogir unrhyw un sydd â phryderon am rywun sy'n cario neu'n cuddio cyllell i gysylltu â'r heddlu ar 101, neu riportio’n ddienw drwy CrimeStoppers (0800 555 111) neu wefan ymgyrch Fearless (Rhowch wybodaeth am droseddu yn gwbl ddienw | Fearless | Crimestoppers). Ffoniwch 999 mewn argyfwng.