Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS supports White Ribbon event in Wrexham

  • Tweet
Thursday, 13 November, 2025
  • Articles
Sam Rowlands

Sam Rowlands MS for North Wales is backing a campaign to encourage people to make a stand against domestic violence.

Mr Rowlands will be supporting a White Ribbon event being held in Tŷ Pawb, Wrexham on Monday 24th November 2024 between 10am-1pm.

He said:

I am delighted to be able to support this campaign and it is good to see an event being held in Wrexham to help raise awareness.

I fully support anyone helping to end violence towards women and children. It is a sad fact that many women suffer some form of domestic violence and we need to do everything we can to prevent these abhorrent actions.

It is also vitally important to get the message across to the public and if anyone knows someone who is suffering from domestic violence to make sure that they get the right help and advice which is readily available.

The White Ribbon event will be attended by a range of local organisations who will be on hand to offer advice, help, support and signpost to further information to all in attendance; as well as raise awareness of the importance of recognising the signs and symptoms of domestic abuse and sexual violence.

Cllr Beverly Parry Jones, Gender-based violence, domestic abuse and sexual violence Champion at Wrexham Council said:

White Ribbon events at Tŷ Pawb have always been well attended by local organisations that support women, as well as the public attending.

This event will play an important part in raising awareness of the symptoms of domestic abuse and sexual violence, as well as having experts on hand to offer help and advice.

The White Ribbon is the globally recognised symbol to end men’s violence against women and girls. Since the inception of the White Ribbon movement 36 years ago in Canada, the White Ribbon has become an important symbol in the fight to end gender-based violence.

White Ribbon Day, which is usually held every year on 25th November is an international day dedicated to ending violence against women and girls and encourages people, particularly men, to make a pledge to never commit, excuse, or remain silent about violence against women.

The annual event raises awareness of the importance in recognising the signs and symptoms of domestic abuse and sexual violence.

 

Sam Rowlands AS yn cefnogi digwyddiad Rhuban Gwyn yn Wrecsam

Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn cefnogi ymgyrch i annog pobl i wneud safiad yn erbyn trais domestig.

Bydd Mr Rowlands yn cefnogi digwyddiad Rhuban Gwyn a gynhelir yn Nhŷ Pawb, Wrecsam ddydd Llun 24 Tachwedd 2024 rhwng 10am-1pm.

Dywedodd:

Rwy'n falch iawn o allu cefnogi'r ymgyrch hon ac mae'n dda gweld digwyddiad yn cael ei gynnal yn Wrecsam i helpu i godi ymwybyddiaeth.

Rwy’n rhoi cefnogaeth lwyr i unrhyw un sy'n helpu i roi terfyn ar drais tuag at fenywod a phlant. Mae'n ffaith drist bod llawer o fenywod yn dioddef rhyw fath o drais domestig ac mae angen i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal y gweithredoedd ffiaidd hyn.

Mae hefyd yn hollbwysig trosglwyddo'r neges i'r cyhoedd ac, os oes unrhyw un yn adnabod rhywun sy'n dioddef o drais domestig, mae angen gwneud yn siŵr eu bod yn cael yr help a'r cyngor cywir sydd ar gael yn rhwydd.

Bydd amrywiaeth o sefydliadau lleol yn mynychu’r digwyddiad Rhuban Gwyn a fydd wrth law i gynnig cyngor, help, cefnogaeth a chyfeiriadau at ragor o wybodaeth i bawb sy'n bresennol; yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd adnabod arwyddion a symptomau cam-drin domestig a thrais rhywiol.

Dywedodd y Cynghorydd Beverly Parry Jones, Hyrwyddwr trais ar sail rhywedd, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghyngor Wrecsam: 

Mae sefydliadau lleol sy'n cefnogi menywod, yn ogystal â'r cyhoedd, bob amser yn mynychu digwyddiadau Rhuban Gwyn yn Nhŷ Pawb.

Bydd y digwyddiad hwn yn chwarae rhan bwysig wrth godi ymwybyddiaeth o symptomau cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal â chael arbenigwyr wrth law i gynnig help a chyngor.

Y Rhuban Gwyn yw'r symbol a gydnabyddir yn fyd-eang i roi terfyn ar drais dynion yn erbyn menywod a merched. Ers sefydlu’r mudiad Rhuban Gwyn 36 mlynedd yn ôl yng Nghanada, mae'r Rhuban Gwyn wedi dod yn symbol pwysig yn y frwydr i roi terfyn ar drais ar sail rhywedd.

Mae’r Diwrnod Rhuban Gwyn, sydd fel arfer yn cael ei gynnal bob blwyddyn ar 25 Tachwedd, yn ddiwrnod rhyngwladol sy'n ymroddedig i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched ac yn annog pobl, yn enwedig dynion, i wneud addewid i beidio byth â chyflawni, esgusodi neu aros yn dawel am drais yn erbyn menywod.

Mae'r digwyddiad blynyddol yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cydnabod arwyddion a symptomau cam-drin domestig a thrais rhywiol.

You may also be interested in

Sam Rowlands

Sam Rowlands MS highlights the Armed Forces Community Carol Service in Wrexham

Friday, 21 November, 2025
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at Wasanaeth Carolau Cymunedol y Lluoedd Arfog yn Wrecsam

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2025 Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru. All rights reserved.
Powered by Bluetree