Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that Asda is once again supporting pensioners this Winter.
Mr Rowlands said:
I am delighted to see the national supermarket chain is offering over 60’s the chance to enjoy a 'Winter Warmer' meal deal to help them during the colder months.
Last year half a million of these meals were served to pensioners across the country which just shows how popular they were.
As many people continue to struggle with ever increasing energy and food bills it is good to see the return of this initiative which will provide them with a nutritious hot meal and a drink. It is also a great way for those people who are on their own to meet up with others for a chat.
From 1st November until the end of February, Asda is offering people aged 60 and over the chance to enjoy soup, bread and unlimited tea or coffee for just £1 in any of Asda’s 212 cafes – this includes in-store cafés in North Wales.
Asda’s Community Champions are also inviting and encouraging many local over 60’s group and individuals to come along to their store café to use the £1 Winter Warmer meal as an opportunity to come and chat to others.
Last year, Asda’s Christmas community tracker laid bare the lack of human interaction and conversations millions of older people suffer in the run up and during the festive period, with one in 10 not sure they will speak to anyone between December 15th and January 1st and one in 10 over 60’s said they’d gone to a supermarket simply to speak to another person.
Jordan Cummings - Buying Manager, Cafes and Concessions at Asda said:
We know winter is set to be incredibly hard for thousands of pensioners as they continue to worry about how to keep themselves warm in the face of rising living costs and on a fixed income.
Last year alone we sold over half a million meals showing the vital need for this initiative. By bringing Winter Warmers back this November, we hope it will continue to be just as impactful across the winter months for those who need it most, as well as offering a relaxed social environment to come and chat to others.
Sam Rowlands AS yn cefnogi menter ‘Gaeaf Cynnes’ i bobl leol dros 60 oed yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu’r newyddion bod Asda unwaith eto yn cefnogi pensiynwyr y Gaeaf hwn.
Meddai Mr Rowlands:
Rwy’n falch iawn o weld bod y gadwyn archfarchnadoedd genedlaethol yn cynnig cyfle i bobl dros 60 oed fwynhau bargen pryd bwyd ‘Winter Warmer’ i’w helpu yn ystod y misoedd oerach.
Y llynedd cafodd hanner miliwn o’r prydau hyn eu gweini i bensiynwyr ledled y wlad sy’n dangos pa mor boblogaidd oedden nhw.
Wrth i lawer o bobl barhau i gael trafferth gyda biliau ynni a bwyd cynyddol, mae’n dda gweld y fenter hon yn dychwelyd gan y bydd yn darparu pryd poeth maethlon a diod iddyn nhw. Mae’n ffordd wych i’r bobl hynny sydd ar eu pennau eu hunain gwrdd ag eraill am sgwrs hefyd.
O 1 Tachwedd hyd nes diwedd mis Chwefror, mae Asda yn cynnig cyfle i bobl 60 oed a hŷn fwynhau cawl, bara a chymaint o de neu goffi ag y mynnont am £1 yn unig yn unrhyw un o 212 o gaffis Asda - mae hyn yn cynnwys caffis yn siopau’r Gogledd.
Mae Hyrwyddwyr Cymunedol Asda yn gwahodd ac yn annog llawer o unigolion a grwpiau lleol dros 60 oed i ddod draw i gaffis y siopau hefyd i fanteisio ar y cynnig arbennig fel cyfle i ddod i sgwrsio ag eraill.
Y llynedd, datgelodd traciwr cymunedol Nadolig Asda y diffyg rhyngweithio dynol a sgyrsiau y mae miliynau o bobl hŷn yn ei wynebu yn y cyfnod cyn yr ŵyl ac yn ystod yr ŵyl, gydag un o bob 10 ddim yn siŵr a fyddant yn siarad ag unrhyw un rhwng 15 Rhagfyr a 1 Ionawr ac un o bob 10 dros 60 oed wedi dweud eu bod wedi mynd i archfarchnad dim ond i siarad â pherson arall.
Dywedodd Jordan Cummings - Rheolwr Prynu, Caffis a Chonsesiynau yn Asda:
Rydyn ni’n gwybod y bydd y gaeaf yn eithriadol o anodd i filoedd o bensiynwyr wrth iddyn nhw barhau i boeni am sut i gadw eu hunain yn gynnes yn wyneb costau byw cynyddol ac ar incwm sefydlog.
Y llynedd yn unig fe wnaethon ni werthu dros hanner miliwn o brydau bwyd sy’n dangos yr angen hollbwysig am y fenter hon. Trwy ddod â’r cynnig yn ôl ym mis Tachwedd, ein gobaith yw y bydd yn parhau i fod yr un mor effeithiol dros fisoedd y gaeaf i’r rhai sydd ei angen fwyaf, yn ogystal â chynnig amgylchedd cymdeithasol hamddenol i ddod i sgwrsio ag eraill.