Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a 10 year old Wrexham cyclist for future success.
Mr Rowlands, a keen supporter of encouraging young people to keep fit and active has praised the success so far for Ethan Said of Summerhill.
Ethan, a pupil at Eccleston C of E Primary School, has been riding a bike since he was two years of age and recently took part in a national event at Newport Velodrome where he was placed ninth in the Under 12 age group.
Mr Rowlands said:
Ethan’s record is truly impressive for someone so young and his determination and talent seems to hold no bounds.
I recently spoke to his Dad, Ioan, who is extremely proud of his achievements and is keen to encourage Ethan to become a professional cyclist which is what he wants to be in the future.
Ioan is now looking for sponsors so that his son can continue to climb up the rankings and compete against the very best.
I am delighted to highlight Ethan’s achievements and wish him all the success for the future.
Ethan trains with the Wrexham Cycling Club and sometimes joins sessions with North Cheshire Clarion Cycling Club, which has a strong youth section.
This is his second year racing internationally and he will be heading for the Netherlands in July to take part in the European Junior Tour of Assen. Last year his best result there was a fourth place, which was a very strong result given that it is widely regarded as the biggest race in the world for his age category. This year he is dreaming of a podium finish.
Ioan said:
Ethan is very clear about his ambition — he wants to become a professional cyclist and to say we’re proud of him would be an understatement. What makes us proudest is the way he supports younger riders and encourages his peers. At school he serves on the school council, is part of the ethos committee, and acts as both a sports ambassador and reading ambassador.
As he continues to develop across multiple cycling disciplines, we’re incredibly excited about the next 18–24 months. Like many young athletes who are still growing, the equipment and travel costs can be significant, so we are always keen to hear from organisations that may wish to support his journey and be part of what we hope will be a very exciting period ahead.
Ethan is currently competing successfully across multiple disciplines — road, circuit racing, cyclocross, mountain biking and now track — often performing at the highest level nationally for his age group.
Recently he took part in the Icebreaker Series at Newport Velodrome his first race on the velodrome, which attracted national-level talent, including some of the top young riders in the country.
Ethan was the second-placed 10-year-old in the endurance events and the fastest 10-year-old in the sprint events. This is especially encouraging because the Icebreaker Series runs as an Under-12 category, meaning he was competing against riders up to two years older.
Sam Rowlands AS yn cefnogi beiciwr ifanc o'i ranbarth
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn dweud bod beiciwr 10 oed o Wrecsam yn siŵr o lwyddo yn y dyfodol.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o annog pobl ifanc i gadw'n heini ac yn actif, wedi canmol llwyddiant Ethan Said o Summerhill hyd yma.
Mae Ethan, disgybl yn Ysgol Gynradd Eglwys Loegr Eccleston, wedi bod yn reidio beic ers yn ddwy oed ac yn ddiweddar cymerodd ran mewn digwyddiad cenedlaethol yn Felodrom Casnewydd lle daeth yn nawfed yn y grŵp oedran dan 12 oed.
Meddai Mr Rowlands:
"Mae record Ethan yn wirioneddol drawiadol i rywun mor ifanc ac mae'n ymddangos nad oes terfyn i’w benderfyniad a'i dalent.
"Yn ddiweddar, siaradais â'i Dad, Ioan, sy'n hynod falch o'i gyflawniadau ac sy’n awyddus i annog Ethan i ddod yn feiciwr proffesiynol, a dyna’i freuddwyd yn y dyfodol.
"Mae Ioan nawr yn chwilio am noddwyr fel y gall ei fab barhau i ddringo i fyny drwy’r rhengoedd a chystadlu yn erbyn y goreuon.
"Rwy'n falch iawn o dynnu sylw at gyflawniadau Ethan a dymuno pob llwyddiant iddo yn y dyfodol."
Mae Ethan yn hyfforddi gyda Chlwb Beicio Wrecsam ac weithiau'n ymuno â sesiynau gyda Chlwb Beicio Clarion Gogledd Swydd Gaer, sydd ag adran ieuenctid gref.
Dyma ei ail flwyddyn yn rasio'n rhyngwladol a bydd yn mynd i'r Iseldiroedd ym mis Gorffennaf i gymryd rhan yn yr European Junior Tour of Assen. Y llynedd cyrhaeddodd y pedwerydd safle, a oedd yn ganlyniad cryf iawn o ystyried mai dyma’r ras fwyaf yn y byd ar gyfer ei gategori oedran. Eleni mae'n breuddwydio am orffen ar y podiwm.
Meddai Ioan:
Mae Ethan yn glir iawn am ei uchelgais - mae eisiau bod yn feiciwr proffesiynol a byddai dweud ein bod ni'n falch ohono ddim ond yn hanner cyfleu ein gwir deimladau o falchder. Yr hyn rydyn ni’n fwyaf balch ohono yw’r ffordd y mae'n cefnogi beicwyr iau ac yn annog ei gyfoedion. Yn yr ysgol mae'n gwasanaethu ar gyngor yr ysgol, yn rhan o'r pwyllgor ethos, ac yn gweithredu fel llysgennad chwaraeon a llysgennad darllen.
Wrth iddo barhau i ddatblygu ar draws sawl disgyblaeth seiclo, rydyn ni’n hynod gyffrous am y 18–24 mis nesaf. Fel llawer o athletwyr ifanc sy'n dal i dyfu, gall costau offer a theithio fod yn sylweddol, felly rydyn ni bob amser yn awyddus i glywed gan sefydliadau a allai fod am gefnogi ei daith a bod yn rhan o'r hyn rydyn ni’n gobeithio fydd yn gyfnod cyffrous iawn.
Ar hyn o bryd mae Ethan yn cystadlu'n llwyddiannus ar draws sawl disgyblaeth - rasio ffordd, cylched, cyclocross, beicio mynydd a nawr trac – ac mae’n aml yn perfformio ar y lefel uchaf yn genedlaethol ar gyfer ei grŵp oedran.
Yn ddiweddar cymerodd ran yn y Gyfres Icebreaker yn Felodrom Casnewydd, ei ras gyntaf yn y felodrom, sy’n denu talent ar lefel genedlaethol, gan gynnwys rhai o'r beicwyr ifanc gorau yn y wlad.
Ethan oedd yr ail gystadleuydd 10 mlwydd oed yn y digwyddiadau dycnwch a'r cystadleuydd 10 mlwydd oed cyflymaf yn y digwyddiadau sbrint. Mae hyn yn arbennig o galonogol oherwydd bod y Gyfres Icebreaker yn cael ei gynnal fel categori dan 12, sy'n golygu ei fod yn cystadlu yn erbyn beicwyr hyd at ddwy flynedd yn hŷn.