
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging constituents to take part in Flintshire County Council’s consultation on the closure and merging of four Catholic schools in Flintshire.
Mr Rowlands, who has written to express his concerns to the Leader of Flintshire County Council and the Bishop of Wrexham, recently met with concerned parents, governors and local councillors, who are against the proposal.
This week Flintshire County Council’s Cabinet agreed to carry out a consultation on the plans to close four catholic schools and create a super-school in Flint for pupils aged 3-18 from 2026 to 2029. They include St Anthony's Catholic Primary in Saltney, St David's in Mold, St Richard Gwyn Catholic High School and St Mary's in Flint.
Following an assessment of all existing sites, the proposed new school will be developed on the existing sites of St Richard Gwyn and St Mary’s in Flint. The plan also includes closing St Anthony’s by September 2026.
Mr Rowlands said:
I am really disappointed that this controversial proposal has actually gone to a consultation given the huge tide of concern from parents, governors, teachers and local councillors.
Having met with action groups who have been set up to fight against the plans I am determined to support my constituents in the Saltney, Mold and Flint areas who will be affected if this goes ahead.
People are extremely concerned for their future of their local schools and the impact that closures would have on their communities.
I am a firm believer in keeping schools local and I do not think merging four local schools into one “superschool” is the right way forward. St Anthony’s, for example, has been part of the Saltney community for over 150 years and provides education grounded in Christian values.
The council needs to know the depth of feeling against this controversial issue and everyone needs to lodge their objections.
As part of the Council’s school modernisation programme, investment has been identified in partnership with the Catholic Diocese of Wrexham and Welsh Government.
The consultation will open on April 28 and run until June 9.
Mae Sam Rowlands AS yn annog pobl i ddweud eu dweud ar uno pedair ysgol yn y Gogledd-ddwyrain
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog etholwyr i gymryd rhan yn ymgynghoriad Cyngor Sir y Fflint ar gau ac uno pedair ysgol Gatholig yn Sir y Fflint.
Yn ddiweddar, fe wnaeth Mr Rowlands, sydd wedi ysgrifennu i fynegi ei bryderon at Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Esgob Wrecsam, gyfarfod â rhieni, llywodraethwyr a chynghorwyr lleol pryderus, sy'n erbyn y cynnig.
Yr wythnos hon cytunodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint i gynnal ymgynghoriad ar y cynlluniau i gau pedair ysgol Gatholig a chreu ysgol fawr yn y Fflint ar gyfer disgyblion 3-18 oed rhwng 2026 a 2029. Maen nhw’n cynnwys Ysgol Gynradd Gatholig Sant Anthony yn Saltney, Dewi Sant yn yr Wyddgrug, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn a'r Santes Fair yn y Fflint.
Yn dilyn asesiad o'r holl safleoedd presennol, bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn cael ei datblygu ar safleoedd presennol Sant Richard Gwyn a’r Santes Fair yn y Fflint. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys cau Ysgol Sant Anthony erbyn mis Medi 2026.
Dywedodd Mr Rowlands:
Rwy'n wirioneddol siomedig bod y cynnig dadleuol hwn wedi mynd i ymgynghoriad o ystyried y don enfawr o bryder gan rieni, llywodraethwyr, athrawon a chynghorwyr lleol.
Ar ôl cyfarfod â grwpiau gweithredu sydd wedi'u sefydlu i ymladd yn erbyn y cynlluniau, rwy'n benderfynol o gefnogi fy etholwyr yn ardaloedd Saltney, yr Wyddgrug a'r Fflint a fydd yn cael eu heffeithio os bydd hyn yn mynd yn ei flaen.
Mae pobl yn bryderus iawn am ddyfodol eu hysgolion lleol a'r effaith y byddai eu cau yn ei chael ar eu cymunedau.
Rwy'n credu'n gryf mewn cadw ysgolion yn lleol a dydw i ddim yn credu mai uno pedair ysgol leol yn un ysgol fawr yw'r ffordd iawn ymlaen. Mae Sant Anthony's, er enghraifft, wedi bod yn rhan o gymuned Saltney ers dros 150 mlynedd ac mae'n darparu addysg wedi'i seilio ar werthoedd Cristnogol.
Mae angen i'r cyngor sylweddoli dyfnder y teimladau yn erbyn y mater dadleuol hwn ac mae angen i bawb gyflwyno eu gwrthwynebiad.
Fel rhan o raglen moderneiddio ysgolion y Cyngor, mae buddsoddiad wedi'i nodi mewn partneriaeth ag Esgobaeth Gatholig Wrecsam a Llywodraeth Cymru.
Bydd yr ymgynghoriad yn agor ar Ebrill 28 ac yn rhedeg tan 9 Mehefin.