Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on constituents to take part in Flintshire County Council’s consultation on the closure and merging of four Catholic schools in Flintshire.
Mr Rowlands, who totally opposes the move, was commenting after protestors, including children, parents and school governors from St David’s School, Mold gathered outside the headquarters of Flintshire County Council to protest at the proposal to close their school.
Mr Rowlands said:
I said last month that I was extremely disappointed that this controversial proposal has actually gone to a consultation given the huge tide of concern from parents, governors, teachers and local councillors.
It is quite amazing that all the comments and protests so far seem to have fallen on deaf ears.
I have met with action groups from Mold, Saltney and Flint areas which have been set up to fight against the plans and I fully supported the protest by St David’s Catholic Primary School in Mold earlier this week.
Quite rightly people are extremely concerned for their future of their local schools and the impact that closures would have on their communities and I hope the council realise the depth of feeling against this controversial issue.
With the closing date for the consultation only two weeks away I would urge everyone to make sure they lodge their objections.
I am a firm believer in keeping schools local and I do not think merging four local schools into one ‘superschool’ is the right way forward.
Flintshire County Council is currently carrying out a consultation on the plans to close four catholic schools and create a super-school in Flint for pupils aged 3-18 from 2026 to 2029. They include St Anthony's Catholic Primary in Saltney, St David's in Mold, St Richard Gwyn Catholic High School and St Mary's in Flint.
Following an assessment of all existing sites, the proposed new school will be developed on the existing sites of St Richard Gwyn and St Mary’s in Flint. The plan also includes closing St Anthony’s by September 2026.
The consultation runs until Friday July 18.
Mae Sam Rowlands AS yn annog pobl i ddatgan eu teimladau am gynlluniau i uno pedair ysgol yng Ngogledd-ddwyrain Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar etholwyr i gymryd rhan yn ymgynghoriad Cyngor Sir y Fflint ar gau ac uno pedair ysgol Gatholig yn Sir y Fflint.
Roedd Mr Rowlands, sy'n gwrthwynebu'r symudiad yn llwyr, yn gwneud ei sylwadau ar ôl i brotestwyr, gan gynnwys plant, rhieni a llywodraethwyr ysgolion o Ysgol Dewi Sant, yr Wyddgrug ymgynnull y tu allan i bencadlys Cyngor Sir y Fflint i brotestio yn erbyn y cynnig i gau eu hysgol.
Meddai Mr Rowlands:
Dywedais fis diwethaf fy mod yn hynod siomedig bod y cynnig dadleuol hwn wedi mynd i ymgynghoriad o ystyried y don enfawr o bryder gan rieni, llywodraethwyr, athrawon a chynghorwyr lleol.
Mae'n anhygoel bod yr holl sylwadau a phrotestiadau hyd yn hyn fel petaen nhw wedi’u hanwybyddu.
Rydw i wedi cwrdd â grwpiau gweithredu o ardaloedd yr Wyddgrug, Saltney a'r Fflint sydd wedi'u sefydlu i ymladd yn erbyn y cynlluniau ac rydw i wedi cefnogi'r brotest gan Ysgol Gynradd Gatholig Dewi Sant yn yr Wyddgrug yn gynharach yr wythnos hon.
Mae pobl yn hynod bryderus am ddyfodol eu hysgolion lleol a'r effaith y byddai eu cau yn ei chael ar eu cymunedau ac rwy'n mawr obeithio y bydd y cyngor yn sylweddoli dyfnder y teimlad yn erbyn y mater dadleuol hwn.
Gyda'r dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad dim ond bythefnos i ffwrdd, byddwn yn annog pawb i wneud yn siŵr eu bod yn cyflwyno eu gwrthwynebiadau.
Rwy’n credu’n gryf y dylid cadw ysgolion yn lleol a dydw i ddim yn credu mai uno pedair ysgol leol i greu un uwchysgol yw'r ffordd briodol ymlaen.
Ar hyn o bryd mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal ymgynghoriad ar y cynlluniau i gau pedair ysgol Gatholig a chreu uwchysgol yn y Fflint ar gyfer disgyblion 3-18 oed rhwng 2026 a 2029. Maen nhw’n cynnwys Ysgol Gynradd Gatholig Sant Anthony yn Saltney, Dewi Sant yn yr Wyddgrug, Ysgol Uwchradd Gatholig Sant Richard Gwyn a'r Santes Fair yn y Fflint.
Yn dilyn asesiad o'r holl safleoedd presennol, bydd yr ysgol newydd arfaethedig yn cael ei datblygu ar safleoedd presennol Sant Richard Gwyn a Santes Fair yn y Fflint. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys cau St Anthony erbyn mis Medi 2026.
Mae'r ymgynghoriad ar agor tan ddydd Gwener 18 Gorffennaf.