
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has been seeing at first-hand the services provided for the local community at Boots in Broughton.
Mr Rowlands was invited to visit Boots and find out more about the support it provides to local customers and patients.
He said:
It was great to have the opportunity to meet with the team at Boots in Broughton and see for myself the range of retail and pharmacy services they deliver to our local community.
As the NHS in Wales continues to struggle and people find it difficult sometimes to make an appointment with a doctor it is good to see how pharmacies like Boots have stepped up to support the system.
Pharmacists in the stores are able to offer health advice and dispense prescriptions which all helps to ease the pressures on local surgeries and hospitals.
I was also very impressed to hear about the company’s partnership with MacMillan Cancer Support and the introduction of Boots Macmillan Information Pharmacists who are specially trained to offer support and advice to cancer patients and their families.
I was delighted to see the retail and pharmacy services on offer and even had the chance for a make-over with an expert.
Boots has operated in Wales for over 125 years and remains as committed as ever to providing high-quality patient care and supporting staff and customers.
It has 90 stores in Wales and employs 1,600 people and is one of the largest employers of healthcare professionals outside the NHS.
As the leading community pharmacy in Wales, Boots is a key partner to the NHS and Health Boards and its pharmacies play a vital role in providing patients with medicines and convenient and accessible healthcare services.
Boots is also an active community partner, working with organisations such as The Hygiene Bank and MacMillan Cancer Support to strengthen community resilience and support people to lead happier and healthier lives.
In partnership with Macmillan Cancer Support, Boots has trained over 4,000 Boots Macmillan Information Pharmacists, BMIPs. Their training covers a mix of medical and emotional support and equips them to help patients on a range of subject matters, from medication concerns and side effects of treatment through to fertility and what to eat to live well with cancer. They can also guide people to more specialist sources of information and support, both locally and nationally, depending on their needs.
The news comes as research by Macmillan estimates there are more than three quarters of a million (780,000) people living with cancer in the UK who are finding it harder to access general healthcare and treatment as a result of the pandemic.
Sam Rowlands AS yn ymweld â fferyllfa gymunedol flaenllaw yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi bod yn gweld drosto'i hun y gwasanaethau a ddarperir i'r gymuned leol yn Boots ym Mrychdyn.
Gwahoddwyd Mr Rowlands i ymweld â Boots a darganfod mwy am y gefnogaeth y mae'n ei darparu i gwsmeriaid a chleifion lleol.
Meddai:
Roedd hi’n wych cael y cyfle i gwrdd â'r tîm yn Boots ym Mrychdyn a gweld drosof fy hun yr ystod o wasanaethau manwerthu a fferyllol y maen nhw'n eu darparu i'n cymuned leol.
Yn wyneb trafferthion y GIG yng Nghymru a pha mor anodd yw hi weithiau i wneud apwyntiad gyda meddyg, mae'n dda gweld sut mae fferyllfeydd fel Boots wedi camu i’r adwy i gefnogi'r system.
Gall fferyllwyr yn y siopau gynnig cyngor iechyd a dosbarthu presgripsiynau sydd i gyd yn helpu i ysgafnhau'r pwysau ar feddygfeydd ac ysbytai lleol.
Roedd hi hefyd yn braf iawn clywed am bartneriaeth y cwmni â Chymorth Canser MacMillan a bod yna nawr Fferyllwyr Gwybodaeth Macmillan gan Boots sydd wedi'u hyfforddi'n arbennig i gynnig cymorth a chyngor i gleifion canser a'u teuluoedd.
Roeddwn i’n falch iawn o weld y gwasanaethau manwerthu a fferylliaeth a gynigiwyd a chefais gyfle hyd yn oed i gael gweddnewidiad gan arbenigwr.
Mae Boots wedi bod ar waith yng Nghymru ers dros 125 o flynyddoedd ac mae'n parhau i fod mor ymroddedig ag erioed i ddarparu gofal cleifion o ansawdd uchel a chefnogi staff a chwsmeriaid.
Mae gan Boots 90 o siopau yng Nghymru ac mae'n cyflogi 1,600 o bobl ac mae'n un o'r cyflogwyr mwyaf o weithwyr gofal iechyd proffesiynol y tu allan i'r GIG.
Fel fferyllfa gymunedol flaenllaw yng Nghymru, mae Boots yn bartner allweddol i'r GIG a Byrddau Iechyd ac mae ei fferyllfeydd yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu meddyginiaethau a gwasanaethau gofal iechyd cyfleus a hygyrch i gleifion.
Mae Boots hefyd yn bartner cymunedol gweithgar, sy’n gweithio gyda sefydliadau fel The Hygiene Bank a Chymorth Canser MacMillan i gryfhau cadernid cymunedol a chefnogi pobl i fyw bywydau hapusach ac iachach.
Mewn partneriaeth â Chymorth Canser Macmillan, mae Boots wedi hyfforddi dros 4,000 o Fferyllwyr Gwybodaeth Macmillan Boots. Mae eu hyfforddiant yn cynnwys agweddau ar gymorth meddygol ac emosiynol ac yn eu harfogi i helpu cleifion gyda phob math o bethau, o bryderon am feddyginiaeth a sgîl-effeithiau triniaeth i ffrwythlondeb a beth i'w fwyta i fyw'n dda gyda chanser. Gallant hefyd arwain pobl at ffynonellau gwybodaeth a chymorth mwy arbenigol, yn lleol ac yn genedlaethol, yn dibynnu ar eu hanghenion.
Daw'r newyddion wrth i ymchwil gan Macmillan amcangyfrif bod mwy na thri chwarter miliwn (780,000) o bobl sy'n byw gyda chanser yn y DU sy'n ei chael hi'n anoddach cael mynediad at ofal iechyd a thriniaeth gyffredinol o ganlyniad i'r pandemig.