Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS visits new housing development in North Wales

  • Tweet
Tuesday, 15 April, 2025
  • Local News
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has been finding out more about new affordable homes being built in Denbigh.

Mr Rowlands was recently invited to look around the new development next to Ysgol Pendref on Gwaenynog Road.

He said:

I was delighted to have the opportunity to be shown around the site and see for myself what sort of quality homes are being built in Denbigh by Adra.

It was impressive to see how the development is progressing and how many people have already moved into their new houses.

It was also great to have the chance to speak with Adra’s Sion Hughes, Director of Policy and Delivery and Owen Bracegirdle, Senior Project Manager and hear all about their future plans.

Adra which provides quality homes in North Wales, is currently developing its largest development of affordable homes to date with 110 homes. 

49 of the properties will be for social rent with, 31 being intermediate rent units and 30 being market rent properties and the entire development includes a mix of 2, 3 and 4 bedroom houses.

The company looks after over 7,000 homes and provides services to over 16,000 local customers with its goal being to ensure that these are affordable and reliable.

Over the last 10 years Adra has significantly increased the number of homes it provides and during 2024 completed its 1,000th new home, providing homes for over 18,000 people across more than 7,400 properties in North Wales. 

 

Sam Rowlands AS yn ymweld â datblygiad tai newydd yn y Gogledd

Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi bod yn darganfod mwy am dai fforddiadwy newydd sy'n cael eu hadeiladu yn Ninbych.

Yn ddiweddar, gwahoddwyd Mr Rowlands i gael cip ar y datblygiad newydd wrth ymyl Ysgol Pendref ar Ffordd Gwaenynog.

Meddai:

Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i gael cip ar y safle a gweld pa fath o gartrefi o safon sy'n cael eu hadeiladu yn Ninbych gan Adra.

Roedd yn drawiadol gweld sut mae'r datblygiad yn mynd rhagddo a faint o bobl sydd eisoes wedi symud i'w tai newydd.

Roedd hefyd yn wych cael y cyfle i siarad â Sion Hughes, Cyfarwyddwr Polisi a Chyflenwi Adra, ac Owen Bracegirdle, Uwch Reolwr Prosiect a chlywed am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae Adra, sy'n darparu cartrefi o safon yng Ngogledd Cymru, yn datblygu ei ddatblygiad mwyaf o gartrefi fforddiadwy hyd yma, gyda 110 o gartrefi. 

Bydd 49 eiddo yn rhai rhent cymdeithasol, 31 yn unedau rhent canolradd a 30 yn eiddo rhent y farchnad ac mae'r datblygiad cyfan yn cynnwys cymysgedd o dai 2, 3 a 4 ystafell wely.

Mae'r cwmni'n gofalu am dros 7,000 o gartrefi ac yn darparu gwasanaethau i dros 16,000 o gwsmeriaid lleol a'i nod yw sicrhau bod y cartrefi hyn yn fforddiadwy ac yn ddibynadwy.

Dros y 10 mlynedd diwethaf mae Adra wedi cynyddu'n sylweddol nifer y cartrefi y mae'n eu darparu ac yn ystod 2024 cwblhaodd ei 1,000fed cartref newydd, ac mae’n darparu cartrefi i dros 18,000 o bobl ar draws mwy na 7,400 eiddo yng Ngogledd Cymru.

You may also be interested in

Sam Rowlands

Sam Rowlands MS supports march to protest against closure of North-East Wales school

Thursday, 1 May, 2025
Sam Rowlands AS yn cefnogi gorymdaith i brotestio yn erbyn cau ysgol yn y Gogledd-ddwyrain

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands MS are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands AS yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, Management Suite, Broughton Retail Park, Broughton CH4 0DE.
Copyright 2025 Sam Rowlands MS for North Wales | AS y Ceidwadwyr dros Ogledd Cymru. All rights reserved.
Powered by Bluetree