Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed a major jobs boost at JCB Transmissions in Wrexham.
Mr Rowlands, Shadow Cabinet Minister for Finance, Transport and Infrastructure was recently invited to the site on the Wrexham Industrial Estate.
He said:
I was delighted to have the opportunity to meet up with Operations Director, Craig Weeks, once again and hear all about their future plans.
JCB is one of the top three manufacturers of construction equipment in the world and it is always a pleasure to be shown around this fantastic plant which is at the forefront of new technology.
I was particularly impressed with the Gearbox and Axle production lines as well as the new Generator factory which includes Hydrogen Generators and is creating new jobs locally.
This is very welcome news for the area and it is great to see major developments continuing at Wrexham Industrial Estate.
Mr Rowlands was given a tour of the new facility by Operations Director, Craig Weeks and had the opportunity to chat with staff working in the new section.
The new production line includes green Hydrogen generators as well as battery packs, which are being built for sale in the UK as well as global export.
Sam Rowlands AS yn ymweld â llinell gynhyrchu newydd gyda chyflogwr mawr yng ngogledd-ddwyrain Cymru
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu hwb mawr i swyddi yn JCB Transmissions yn Wrecsam.
Yn ddiweddar, gwahoddwyd Mr Rowlands, Gweinidog Cabinet yr Wrthblaid dros Gyllid, Trafnidiaeth a Seilwaith i'r safle ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle unwaith eto i gwrdd â'r Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Craig Weeks, a chlywed am eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
JCB yw un o'r tri gwneuthurwr offer adeiladu mwyaf blaenllaw yn y byd ac mae bob amser yn bleser cael fy nhywys o amgylch y safle gwych hwn sydd ar flaen y gad o ran technoleg newydd.
Fe wnaeth llinellau cynhyrchu Gearbox ac Axle greu argraff arbennig arnaf yn ogystal â'r ffatri eneraduron newydd sy'n cynnwys generaduron hydrogen ac sy'n creu swyddi newydd yn lleol.
Mae’n newyddion da iawn i'r ardal ac mae'n wych gweld datblygiadau mawr yn parhau ar Ystad Ddiwydiannol Wrecsam.
Cafodd Mr Rowlands daith o amgylch y cyfleuster newydd gan y Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Craig Weeks, a chafodd gyfle i sgwrsio â staff sy'n gweithio yn yr adran newydd.
Mae'r llinell gynhyrchu newydd yn cynnwys generaduron hydrogen gwyrdd yn ogystal â phecynnau batri, sy'n cael eu hadeiladu i'w gwerthu yn y DU yn ogystal â’u hallforio’n fyd-eang.