
Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, welcomes an initiative which offers support to the local community in Bangor.
Mr Rowlands said:
I was delighted to recently have the opportunity to meet Rev John Thompson and visit Renew 57 at Penrallt Baptist Church in Bangor.
It was great to hear all about this initiative which is part of the Renew Wellbeing movement and invites everyone to a friendly safe haven to meet up with others and enjoy a cuppa and a chat.
I was very impressed with the idea of the sessions which are free and offer different activities aimed at helping people with their wellbeing.
Every Thursday from 10:30am to 12:30pm people are invited to Renew 57 at Penrallt Baptist Church, Bangor, a quiet shared space where it's ok not to be ok.
The church is open for a variety of hobbies and activities and anyone is welcome to bring and share a hobby or skill, join an activity, or just to drop-in for part of the time.
All the activities are free or you can call in just to relax, have a chat, or enjoy the peace in a quiet area. There are also free refreshments.
The activities are based around the '5 ways to wellbeing' which promote good mental and emotional health. To connect, give, be active, keep learning and take notice.
This drop-in is part of the Renew Wellbeing movement and helps churches open spaces of welcome and inclusion for over 18s in partnership with mental health teams to improve mental and emotional wellbeing.
Renew spaces are simple cafe style spaces run by local churches where hobbies and activities are shared or co-produced. Each cafe space is attached to a quiet room or prayer space where inner habits of wellbeing are shared.
Each church partners with a mental health professional from the local council or other suitable organisation to ensure good inclusive practices for safe spaces where it's OK not to be OK can be sustained.
Sam Rowlands AS yn ymweld â man tawel sy’n cael ei rannu â’r cyhoedd yng Ngwynedd
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, yn croesawu menter sy'n cynnig cymorth i'r gymuned leol yn ninas Bangor.
Dywedodd Mr Rowlands:
Roeddwn yn falch iawn o gael cyfle’n ddiweddar i gwrdd â'r Parch John Thompson ac ymweld â Renew 57 yn Eglwys y Bedyddwyr Penrallt, Bangor.
Roedd hi'n wych clywed popeth am y fenter sy'n rhan o fudiad Renew Wellbeing ac sy'n gwahodd pawb i hafan ddiogel gyfeillgar i gwrdd ag eraill a mwynhau paned a sgwrs.
Fe wnaeth y sesiynau rhad ac am ddim hyn sy’n cynnig gweithgareddau amrywiol er mwyn helpu pobl gyda'u lles, adael cryn argraff arna i.
Mae 'Renew 57' yn Eglwys y Bedyddwyr Penrallt, Bangor, ar agor bob dydd Iau rhwng 10:30am a 12:30pm, ac yn fan tawel lle mae'n iawn i beidio â bod yn iawn.
Mae'r eglwys yn cynnig pob math o ddiddordebau a gweithgareddau, ac mae croeso i unrhyw un alw draw i rannu hobi neu sgìl, ymuno â gweithgaredd, neu dim ond picio heibio am ychydig.
Mae'r holl weithgareddau yn rhad ac am ddim neu mae croeso i chi alw draw i ymlacio, cael sgwrs, neu fwynhau'r heddwch mewn ardal dawel. Mae lluniaeth am ddim hefyd.
Mae'r gweithgareddau yn seiliedig ar y '5 ffordd i lesiant' sy'n hyrwyddo iechyd meddwl ac iechyd emosiynol da. Cysylltu, rhoi, bod yn fywiog, dal ati i ddysgu a bod yn sylwgar.
Mae'r sesiwn galw heibio hon yn rhan o fudiad Renew Wellbeing sy’n helpu eglwysi i agor mannau llawn croeso a chynhwysiant i bobl 18 oed a throsodd, mewn partneriaeth â thimau iechyd meddwl er mwyn gwella lles meddyliol ac emosiynol.
Mannau syml yn null caffis yw'r rhain, sy'n cael eu rhedeg gan eglwysi lleol lle mae hobïau a gweithgareddau yn cael eu rhannu neu eu cynhyrchu ar y cyd. Mae pob gofod caffi ynghlwm wrth ystafell dawel neu ofod gweddi lle mae arferion lles mewnol yn cael eu rhannu.
Mae pob eglwys yn meithrin partneriaeth â gweithiwr iechyd meddwl proffesiynol o'r cyngor lleol neu sefydliad addas arall i sicrhau arferion cynhwysol da ar gyfer mannau diogel lle mae'n iawn i beidio â bod yn iawn.