Skip to main content
Site logo

Main navigation

  • Home | Hafan
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
  • News | Newyddion
  • Contact | Cyswllt
Site logo

Sam Rowlands MS warns public to beware of courier fraud

  • Tweet
Wednesday, 17 June, 2026
  • Articles
Sam Rowlands

Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for Fflint Wrecsam is warning his constituents about a national scam.

Mr Rowlands is backing a warning from North Wales Police who say that courier fraud is on the increase in North Wales.

He said:

I was quite shocked to hear that £118,940 is the amount of money criminals have stolen through courier fraud in North Wales alone with over £21 million in total from victims across England and Wales in 2025.

It clearly still remains a problem and I am happy to promote any warning of fraud taking place. Unfortunately these fraudsters pray on the good nature of most people and can sound extremely plausible when talking on the telephone.

There really are some despicable people out there who will do anything to scam the public and police advice is to always check and if something doesn’t sound right then end the call.

North Wales Police Cyber Crime Team say they have recently seen an increase in reports of courier fraud across North Wales and warning people about calls they may receive from their bank arranging to call and collect their bank card which is called courier fraud. Their advice is to hang up immediately and contact the police.

Banks or the Police will never call and ask you to transfer money, or send a courier to your home to collect cards, cash or other valuables.

If you've received a call that doesn't feel right, STOP! Hang up and contact the organisation directly using the contact details on official correspondence or website, or by calling 159 for your bank.

 

Sam Rowlands AS yn rhybuddio'r cyhoedd i fod yn ofalus rhag twyll cludwyr

Mae Sam Rowlands, AS Fflint Wrecsam, yn rhybuddio ei etholwyr am sgam genedlaethol.

Mae Mr Rowlands yn cefnogi rhybudd gan Heddlu Gogledd Cymru sy'n dweud bod twyll cludwyr ar gynnydd yn y Gogledd.

Meddai:

Cefais dipyn o sioc o glywed bod troseddwyr wedi dwyn £118,940 trwy dwyll cludwyr yn y Gogledd yn unig, gan ddwyn cyfanswm o dros £21 miliwn o ddioddefwyr ledled Cymru a Lloegr yn 2025.

Mae'n amlwg ei fod yn dal i fod yn broblem ac rwy'n hapus i hyrwyddo unrhyw rybudd o dwyll. Yn anffodus, mae'r twyllwyr hyn yn manteisio ar natur dda y rhan fwyaf o bobl a gallant swnio'n hynod gredadwy wrth siarad ar y ffôn.

Mae yna rai pobl ffiaidd allan yna a fydd yn gwneud unrhyw beth i dwyllo'r cyhoedd, a chyngor yr heddlu yw gwirio bob amser ac, os nad yw rhywbeth yn swnio'n iawn, dod â’r alwad i ben ar unwaith.

Mae Tîm Seiberdroseddu Heddlu Gogledd Cymru yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd yn ddiweddar mewn adroddiadau o dwyll cludwyr ledled y Gogledd ac yn rhybuddio pobl am alwadau y gallant eu cael gan eu banc yn trefnu i ffonio a chasglu eu cerdyn banc – mae hyn yn cael ei alw'n dwyll cludwyr. Eu cyngor yw dod â’r alwad i ben ar unwaith a chysylltu â'r heddlu.

Ni fydd banciau na'r Heddlu byth yn ffonio a gofyn i chi drosglwyddo arian, nac yn anfon cludwr i'ch cartref i gasglu cardiau, arian parod neu bethau gwerthfawr eraill.

Os ydych chi wedi cael galwad sydd ddim yn teimlo'n iawn, STOPIWCH! Dewch â’r alwad i ben a cysylltwch â'r sefydliad yn uniongyrchol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar ohebiaeth swyddogol neu wefan, neu drwy ffonio 159 ar gyfer eich banc.

You may also be interested in

Sam Rowlands

Sam Rowlands MS concerned over the possible revaluation of council tax

Wednesday, 24 June, 2026
Sam Rowlands AS yn poeni am y posibilrwydd o ailbrisio’r dreth gyngor

Show only

  • Articles
  • Local News
  • Opinions
  • Senedd News
  • Speeches

Sam Rowlands for Fflint Wrecsam

Footer

  • About RSS
  • Accessibility
  • Cookies
  • Privacy
  • About Sam Rowlands | Ynglŷn â Sam Rowlands
Welsh ParliamentNeither the Welsh Parliament, nor Sam Rowlands are responsible for the content of external links or websites. The costs of this publication have been met by the Senedd Commission from public funds. Nid yw'r Senedd na Sam Rowlands yn gyfrifol am gynnwys unrhyw dolenni neu wefannau allanol. Talwyd y cyhoeddiad hwn gan Gomisiwn y Senedd gan ddefynyddio arian cyhoeddus. Promoted by Harry Saville on behalf of Sam Rowlands, both of Sam Rowlands MS, North Wales Business Park, Abergele LL22 8LJ.
Copyright 2026 Sam Rowlands. All rights reserved.
Powered by Bluetree