Mr Rowlands, member of the Welsh Parliament for North Wales, recently took part in the annual food collection at Tesco in Broughton.
He said:
I am always happy to support this very important campaign with everything donated going to Tesco’s charity partners, Trussell Trust and Fareshare, the organisations which work together to ensure that food banks are stocked and donated or excess food is available for people who need it.
It was a great opportunity to learn more about how Tesco’s involvement with the annual food collection from Alison Roberts, Tesco’s Community Champion.
New figures from Trussell reveal a sharp rise in the need for winter food parcels with food banks in the Trussell community seeing a 40% increase in overall parcels provided over the winter period, compared with five years ago.
Almost three quarters of a million (740,000) emergency food parcels were distributed overall last winter between December 2024 and February 2025 to people across the UK – a 40% increase compared to pre-pandemic levels five years ago.
More than a quarter of a million (266,000 parcels) were provided for children last winter, representing one in every three parcels – a 29% rise compared to five years ago.
Alarmingly, the biggest increase was among people over 65 who received more than 24,000 food parcels last winter – more than three times (202% higher) the level of support compared to the same period five years ago.
Sam Rowlands yn dangos ei gefnogaeth i gasgliad bwyd gaeaf mwyaf y DU
Yn ddiweddar, cymerodd Mr Rowlands, AS Gogledd Cymru, ran yn y casgliad bwyd blynyddol yn Tesco ym Mrychdyn.
Meddai:
Rydw i bob amser yn hapus i gefnogi'r ymgyrch bwysig iawn hon, gyda phopeth a roddir yn mynd i bartneriaid elusennol Tesco, Trussell Trust a Fareshare, y sefydliadau sy'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod banciau bwyd yn llawn neu fod bwyd dros ben ar gael i bobl sydd ei angen.
Roedd yn gyfle gwych i ddysgu mwy am gyfraniad Tesco at y casgliad bwyd blynyddol gan Alison Roberts, Hyrwyddwr Cymunedol Tesco.
Mae ffigurau newydd gan Trussell yn datgelu cynnydd sydyn yn yr angen am barseli bwyd gaeaf, gyda banciau bwyd yng nghymuned Trussell yn gweld cynnydd o 40% yn y parseli cyffredinol a ddarperir dros gyfnod y gaeaf, o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.
Dosbarthwyd bron i dri chwarter miliwn (740,000) o barseli bwyd brys y gaeaf diwethaf rhwng Rhagfyr 2024 a Chwefror 2025 i bobl ledled y DU – cynnydd o 40% o'i gymharu â'r lefelau cyn y pandemig bum mlynedd yn ôl.
Darparwyd mwy na chwarter miliwn (266,000 o barseli) i blant y gaeaf diwethaf, sy'n cynrychioli un o bob tri pharsel - cynnydd o 29% o'i gymharu â phum mlynedd yn ôl.
Yn frawychus, roedd y cynnydd mwyaf ymhlith pobl dros 65 oed a gafodd fwy na 24,000 o barseli bwyd y gaeaf diwethaf - mwy na thair gwaith (202% yn uwch) na lefel y gefnogaeth o'i gymharu â'r un cyfnod bum mlynedd yn ôl.