Fy nghynllun i ar gyfer Gogledd Cymru

Cliciwch yma i weld y Saesneg | Click here for English

1. Cefnogi Gwasanaethau Iechyd Lleol

Mae cael mynediad at ofal iechyd o ansawdd uchel yn hanfodol. Rwyf wedi cefnogi uwchraddio fferyllfeydd lleol, fel y rhai ym Mhrestatyn a Chonwy. Nawr, gallant ddarparu gwasanaethau iechyd hanfodol ddydd a nos yn ein cymunedau. Bûm yn cefnogi’r ymgyrch lwyddiannus i gynyddu cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer hosbisau plant, fel Tŷ Gobaith yn Nyffryn Conwy. Ond gallwn wneud mwy. Mae problemau mawr gyda’n bwrdd iechyd lleol, mae rhai o’n gwasanaethau wedi’u rhoi dan drefniadau ymyrraeth wedi’i thargedu, gan gynnwys Ysbyty Glan Clwyd. Byddaf yn parhau i godi’r materion hyn a materion hanfodol eraill yn y Senedd i sicrhau nad yw pobl yn y Gogledd yn dioddef.

Sam Rowlands

2. Ffyniant Bro i Ogledd Cymru

Mae Gogledd Cymru wedi cael bargen wael erioed o ran cyllid a ddosberthir o Gaerdydd. Cynghorau lleol sy’n gyfrifol am ddarparu llawer o’r gwasanaethau rydym yn dibynnu arnynt bob dydd, ac mae eu diffyg cyllid yn cael effaith ganlyniadol ar ein cymunedau. Mae addysgu’r genhedlaeth nesaf, darparu gwasanaethau gofal neu gasglu ein hailgylchu a’n gwastraff oll yn cael eu heffeithio. Rwyf wedi ymgyrchu dros ragor o gyllid gan Lywodraeth Cymru ac rwy’n croesawu’r cyllid Ffyniant Bro gan Lywodraeth y DU i Ogledd Cymru.

Sam Rowlands

3. Cefnogi Twristiaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno trethi newydd ar gyfer busnesau twristiaeth a fydd yn niweidio economi Gogledd Cymru, gan roi hyd at 140,000 o swyddi mewn perygl. Rwyf wedi ailddechrau’r Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth er mwyn rhoi llais i fusnesau a herio cynigion peryglus sy’n bygwth 84% o fusnesau hunanddarpar Cymru. Dros y blynyddoedd nesaf byddaf yn parhau i weithio gyda phobl leol i hyrwyddo popeth sydd gan sector twristiaeth llewyrchus y Gogledd i’w gynnig.

Sam Rowlands

4. Creu Swyddi Newydd

Mae Gogledd Cymru’n cael ei adael ar ôl. Mae cyflogaeth ac incwm ledled y Gogledd yn is nag yn y De, ac yn is nag yn Lloegr. Rwyf wedi croesawu buddsoddiadau gwerth miliynau o bunnoedd mewn swyddi cynaliadwy newydd yng Nglannau Dyfrdwy ond gallwn wneud mwy. Rwyf wedi ymgyrchu er mwyn i Lywodraeth Cymru wneud mwy i ddenu busnesau preifat i fuddsoddi a chreu mwy o swyddi, yn enwedig ym Mharc Bryn Cegin ger Bangor a safle Alwminiwm Môn yng Nghaergybi. Law yn llaw â fy ngwaith yn ceisio sicrhau rhagor o gyfleoedd swyddi ledled ein rhanbarth, byddaf yn dal ati i gefnogi’r gwaith uwchraddio seilwaith pwysig sydd ei angen er mwyn gweld Gogledd Cymru i gyd yn ffynnu.

Sam Rowlands

5. Hyrwyddo Chwaraeon

Mae chwaraeon llawr gwlad wedi bod yn rhan bwysig o ddiwylliant y Gogledd erioed. Gydol y pandemig gwelsom pa mor bwysig yw hybu iechyd a lles pobl. Gan weithio gyda gwirfoddolwyr lleol a Chyngor Conwy, sefydlwyd Tîm Pêl-droed Ysgolion Conwy ac rwyf wedi cefnogi gwaith uwchraddio yn Stadiwm Parc Eirias ym Mae Colwyn a’r ymgyrch Stadiwm i’r Gogledd, gyda ffocws at ailddatblygu’r Cae Ras yn Wrecsam. Byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth Cymru i wneud mwy i hybu digwyddiadau chwaraeon elît yn y Gogledd a rhoi cefnogaeth ddigonol i’n sefydliadau llawr gwlad lleol.

Sam Rowlands

6. Diogelu’r Undeb

Mae gan breswylwyr ledled y Gogledd-ddwyrain gysylltiad cryf â’n cymdogion yn Lloegr, gyda llawer yn gweithio dros y ffin. Rwy’n credu bod Cymru, yn enwedig y Gogledd, ar ei hennill o fod yn rhan o Deyrnas Unedig gadarn. Mae Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd yn cynllunio ad-drefnu cyfansoddiadol enfawr, a allai o bosib arwain at Gymru annibynnol. Byddai Cymru annibynnol yn drychineb o ran swyddi a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sy’n elwa ar gyllid gan Lywodraeth y DU. Gyda fy nghydweithwyr, byddaf yn parhau i ymgyrchu dros gadw Cymru yn rhan o un Deyrnas Unedig. 

Sam Rowlands