The time is here for the Welsh Government’s default 20mph speed limit. Sunday September 17th saw the start of this hugely significant change on roads up and down Wales.
I have been strongly campaigning against this since the beginning, and I have heard from so many people across Wrexham, Flintshire and the rest of North Wales who oppose this disastrous policy.
It is a policy cooked up in the minds of those Labour politicians who sit in ivory towers down in Cardiff. However you slice it, this is a bad policy. The Welsh Government’s own figures point to the economy in Wales taking a monstrous £4.5 billion hit. Additionally, a study by leading Universities including Cambridge found that reducing speed limits from 30mph to 20mph actually has “little impact” on safety.
When I ran a survey in Buckley, which the Welsh Government used as a trial location, 97% of the respondents said they didn’t want this default 20mph imposed on them. Those people at the sharp end, who have direct experience of this, absolutely do not want it! Even the Deputy Minister for Transport commented negatively on the process, even saying “we got it wrong”. It remains to be seen what Cardiff Labour learned from that experience.
In the Welsh Parliament, my Conservative colleagues and I gave the Labour Cardiff Government and their junior allies in Plaid Cymru a final chance to ditch this blanket 20mph once and for all. We put forward a debate for them to repeal this policy with immediate effect.
I sincerely hoped they would take this opportunity to fix their historic mistake.
Unfortunately, they voted to slow Wales down and stifle the economy, totally ignoring what the people of Wales want.
If you have any queries or issues, please don’t hesitate to get in touch. You can contact me by emailing sam.rowlands@senedd.wales or calling on 0300 200 7267.
Fy marn i - The Leader
Mae'r amser wedi cyrraedd i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya cyffredinol Llywodraeth Cymru. Ddydd Sul 17 Medi gwelwyd dechrau'r newid enfawr hwn ar ffyrdd ledled Cymru.
Rwyf wedi bod yn ymgyrchu'n gryf yn erbyn hyn ers y dechrau, ac rwyf wedi clywed gan nifer o bobl ledled Wrecsam, Sir y Fflint a gweddill y Gogledd sy'n gwrthwynebu'r polisi trychinebus hwn.
Mae'n bolisi sydd wedi’i lunio gan y gwleidyddion Llafur hynny sy'n eistedd yn eu tyrrau ifori lawr yng Nghaerdydd. Sut bynnag y byddwch chi’n ei ystyried, mae hwn yn bolisi gwael. Mae ffigurau Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud y bydd yr economi yng Nghymru yn cael ergyd anferthol o £4.5 biliwn. Yn ogystal, canfu astudiaeth gan brifysgolion blaenllaw gan gynnwys Caergrawnt nad yw lleihau terfynau cyflymder o 30mya i 20mya mewn gwirionedd yn cael "fawr o effaith" ar ddiogelwch.
Pan gynhaliais arolwg ym Mwcle, a ddefnyddiodd Llywodraeth Cymru fel lleoliad prawf, dywedodd 97% o'r ymatebwyr nad oedden nhw am i'r 20mya cyffredinol hwn gael ei orfodi arnyn nhw. Dyw’r bobl hynny sydd â phrofiad uniongyrchol o hyn, bendant ddim am ei weld yn cael ei gyflwyno! Fe wnaeth hyd yn oed y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth wneud sylwadau negyddol ar y broses, gan ddweud "ein bod wedi ei gael yn anghywir". Rydyn ni’n dal i ddisgwyl gweld beth ddysgodd Llafur Caerdydd o'r profiad hwnnw.
Yn Senedd Cymru, rhoddodd fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr a minnau gyfle olaf i Lywodraeth Lafur Caerdydd a'u cefnogwyr ym Mhlaid Cymru gael gwared ar y terfyn cyflymder 20mya unwaith ac am byth. Cyflwynwyd dadl iddyn nhw i ddiddymu'r polisi hwn ar unwaith.
Roeddwn i'n mawr obeithio y bydden nhw'n manteisio ar y cyfle hwn i wneud iawn am eu camgymeriad hanesyddol.
Yn anffodus, fe wnaethon nhw bleidleisio dros arafu Cymru a mygu'r economi, gan anwybyddu'n llwyr beth mae pobl Cymru ei eisiau.
Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu. Gallwch gysylltu â mi drwy e-bostio sam.rowlands@senedd.cymru neu ffonio 0300 200 7267.