Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on farmers in North Wales to apply to become the Welsh Livestock Champion of the Year.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government is backing NFU Cymru and NFU Mutual who are on the lookout to find a ’Livestock Champion’ working in the agricultural industry in Wales.
He said:
As a keen supporter of Welsh farmers I always welcome any opportunity to highlight all the hard work they do to keep the nation fed.
We all know that Wales produces some of the best quality beef and lamb in the world and it is great to see those who look after our cattle and sheep receiving recognition for their skills
I would urge livestock producers in my region of North Wales to enter the competition or nominate someone they know for this prestigious award.
NFU Cymru and NFU Mutual are looking for the ninth winner of the Welsh Livestock Champion of the Year Award to spotlight dedicated, committed and enthusiastic livestock persons from all across Wales. The award winner will receive a top prize of £500 and a Welsh Royal Crystal Trophy.
Rob Lewis, chairman of NFU Cymru’s Livestock Board, who will judge on behalf of the farming union said:
This award aims to celebrate excellence amongst Welsh livestock producers.
We want to recognise the key role an exceptional livestock person can make to a livestock farm and to the Welsh livestock industry as a whole. Potential winners will be judged on their management of the flock/her, their animal health planning, breeding programme, stock handling skills, how they incorporate health and safety into their day-to-day activities on the farm and their vision for the future of the industry.
The closing date for entries is Friday October 28 and the winner will be announced at the Royal Welsh Winter Fair at Builth Wells on Monday November 28.
Anyone interested in entering or who wants to nominate someone go to the NFU Cymru website to download the application form. Alternatively you can email Clare Williams at clare.williams@nfu.org.uk or telephone the NFU Cymru office on 01982 554200.
Sam Rowlands AS yn cefnogi’r ymgyrch i chwilio am bencampwr da byw cenedlaethol
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn galw ar ffermwyr yng Ngogledd Cymru i roi cynnig ar fod yn Bencampwr Da Byw Cymreig y Flwyddyn.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid yn cefnogi NFU Cymru ac NFU Mutual sy'n chwilio am 'Hyrwyddwr Da Byw' sy'n gweithio yn y diwydiant amaethyddol yng Nghymru.
Meddai:
Fel un sy’n cefnogi ffermwyr Cymru’n frwd, dwi’n croesawu unrhyw gyfle bob amser i dynnu sylw at yr holl waith caled maen nhw'n ei wneud i fwydo’r genedl.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod Cymru'n cynhyrchu peth o'r cig eidion a'r cig oen o'r ansawdd gorau yn y byd ac mae'n wych gweld y rhai sy'n gofalu am ein gwartheg a'n defaid yn derbyn cydnabyddiaeth am eu sgiliau.
Byddwn yn annog cynhyrchwyr da byw yn fy rhanbarth yn y Gogledd i gymryd rhan yn y gystadleuaeth neu enwebu rhywun y maen nhw’n ei adnabod ar gyfer y wobr hon sy’n fawr ei bri.
Mae NFU Cymru ac NFU Mutual yn chwilio am nawfed enillydd Gwobr Pencampwr Da Byw Cymru y Flwyddyn i dynnu sylw at ffermwyr da byw ymroddedig a brwdfrydig o bob cwr o Gymru. Bydd enillydd y wobr yn derbyn gwobr o £500 a Thlws Crisial Brenhinol Cymru.
Meddai Rob Lewis, cadeirydd Bwrdd Da Byw NFU Cymru, a fydd yn beirniadu ar ran yr undeb ffermio:
Nod y wobr hon yw dathlu rhagoriaeth ymhlith cynhyrchwyr da byw Cymru.
Rydyn ni am gydnabod rôl allweddol ffermwr da byw eithriadol ar fferm dda byw ac i'r diwydiant da byw yng Nghymru yn ei gyfanrwydd. Bydd darpar enillwyr yn cael eu beirniadu ar sail eu rheolaeth o'r praidd/gyr, eu gwaith cynllunio iechyd anifeiliaid, eu rhaglen fridio, sgiliau trin stoc, sut maen nhw’n ymgorffori iechyd a diogelwch yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd ar y fferm a'u gweledigaeth ar gyfer dyfodol y diwydiant.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Gwener 28 Hydref a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yn Llanfair-ym-muallt ddydd Llun 28 Tachwedd.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhoi cynnig arni neu sydd eisiau enwebu rhywun fynd i wefan NFU Cymru i lawrlwytho'r ffurflen gais. Fel arall, gallwch anfon e-bost at Clare Williams yn clare.williams@nfu.org.uk neu ffonio swyddfa NFU Cymru ar 01982 554200.