Cliciwch yma i weld y Saesneg | Click here for English
Cliciwch yma i neidio i arolwg Terfyn Cyflymder 20mya.
Mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu cyflwyno terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya ar strydoedd trefol, gyda Chymru'r genedl gyntaf yn y byd i wneud hynny.
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno mai doeth yw cyfyngu ar gyflymder y tu allan i ysgolion, ysbytai ac ar ffyrdd lle mae tystiolaeth glir fod hynny’n angenrheidiol ac yn briodol, ond nid fel dull cyffredinol, yn enwedig ar briffyrdd trefol mawr.
Mae Sam wedi bod yn ymgyrchu yn erbyn y cynigion i fabwysiadu terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar holl strydoedd preswyl Cymru. Gallai hyn arwain at gynnydd mewn traffig a chynnydd mewn allyriadau, gan effeithio hefyd ar fusnesau a'r rhai sydd wrthi’n cyflawni gweithgareddau bywyd bob dydd. Yn ogystal â hyn, mae Memorandwm Esboniadol Llywodraeth Cymru ei hun i'w Bil yn dweud y bydd cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20mya yn costio £4.5bn i economi Cymru.
Gallai cyfyngiadau cyflymder 20mya ledled Cymru gael effaith beryglus, a bydd yn gam yn ôl yn ein ffordd o fyw bob dydd.
Gallwch ddysgu mwy am ymgyrch Sam yn erbyn terfynau cyflymder diofyn o 20mya isod:
Sylw yn y Wasg
Gorffennaf 2022 - Wales: Politicians' thoughts on 20mph speed limit zones | The Leader (leaderlive.co.uk)
Gorffennaf 2022 - Speed limit to be lowered to 20mph in Wales | ITV News Wales
Gorffennaf 2022 - North Wales politician backs campaigners fighting against a 20mph speed limit in Buckley | (deeside.com)
Awst 2022 - 'I feel so sorry for the people of Buckley' - MS on 20mph scheme | The Leader (leaderlive.co.uk)
Hydref 2022 - Driving law changes could see motorists fined for speeding offences with 20mph limits | Express.co.uk
Hydref 2022 - Town's 20mph limits branded 'appalling' as Welsh Government defends scheme - North Wales Live (dailypost.co.uk)
Tachwedd 2022 - Sam Rowlands MS calls for clarity over cost of 20mph scheme roll-out | The Leader (leaderlive.co.uk)
Ionawr 2023 - Calls for Welsh Government to publish costings of 20mph scheme | The Leader (leaderlive.co.uk)
Chwefror 2023 - Welsh Government's own report says 20mph speed limit could cost economy billions | Wales Online
Mehefin 2023 - 20mph speed limits on GB News | YouTube
Mehefin 2023 - MS calls for Welsh Government to scrap 'detrimental' 20mph plan | The Leader (leaderlive.co.uk)
Awst 2023 - 20mph speed limit on TalkTV | YouTube
Medi 2023 - North Wales politician calls for "immediate halt" of looming 20mph speed limit - Wrexham.com
Medi 2023 - Sam on 20mph speed limits with Vaughan Roderick | YouTube
Medi 2023 - North Wales politician calls for 'immediate halt' to impending 20mph speed limit change - North.Wales
Medi 2023 - Sam Rowlands MS on campaign against 20mph amid petition | North Wales Chronicle
Medi 2023 - Sam Rowlands speaks to GB News about the Welsh Government’s default 20mph speed limit - YouTube
Hydref 2023 - Sam Rowlands MS challenges 20mph funding for English | The Leader (leaderlive.co.uk)
Tachwedd 2023 - 20mph: Sam Rowlands MS raises concerns over air pollution | The Leader (leaderlive.co.uk)
9 Gorffennaf 2022 – Cyfarfod â thrigolion Bwcle
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn gosod deddfwriaeth gerbron ar gyfer cyflwyno cyfyngiadau cyflymder 20mya. Cyfarfu Sam â thrigolion ym Mwcle yng Ngogledd Cymru. Dywedon nhw fod y cynllun peilot 20mya ym Mwcle yn achosi mwy o lygredd, mwy o ddamweiniau, a mwy o oedi. Cliciwch yma i wylio adborth Sam o'r cyfarfod.
12 Gorffennaf 2022 - Gorchymyn Ffyrdd Cyfyngedig (Terfyn Cyflymder 20 mya) (Cymru) 2022
Ar 12 Gorffennaf, rhoddodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth gerbron i ganiatáu cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yn y dyfodol agos. Siaradodd Sam yn erbyn y cynnig trychinebus hwn, ac amlinellodd fod trigolion pryderus yn credu y byddai hyn yn arwain at fwy o lygredd, mwy o ddamweiniau, a mwy o oedi. Gallwch wylio cyfraniad Sam i'r ddadl yma.
1 Awst 2022 - Cyngor yng Nghymru yn mynd yn ôl i’r terfyn cyflymder 30mya
Wythnosau ar ôl i Lywodraeth Cymru gyflwyno terfynau cyflymder 20mya, dywedodd Cyngor Sir Fynwy na fydden nhw'n cyflwyno hyn. Yn ogystal â hyn, dywedodd yr Athro Paul Lewis o Brifysgol Abertawe fod diffyg tystiolaeth o hyd o ran y gostyngiad mewn llygredd aer. Gallwch ddod o hyd i ymateb Sam i'r newyddion yma.
16 Tachwedd 2022 - Datganiad Busnes
Yn ôl ym mis Tachwedd, cafodd cynghorwyr Cymru lythyr gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu y bydd terfynau cyflymder 20mya yn arbed £100 miliwn yn y flwyddyn gyntaf, ac eto mae ffigyrau Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer eu Mesur yn dweud y bydd y cynnig yn costio £4.5 biliwn i'r economi. Galwodd Sam ar i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad fel bod holl gostau'r cynllun yma wedi eu deall yn llawn. Gallwch wylio cyfraniad Sam yma.
10 Ionawr 2023 – Erthygl Wales Online
Cyhoeddodd Wales Online stori ynglŷn ag adroddiad Llywodraeth Cymru ei hun yn dweud y gallai terfynau cyflymder 20mya gostio £4.5 biliwn i'r economi. Dyfynnwyd Sam, gan ddweud ei bod yn hanfodol bwysig bod diogelwch yn gytbwys â synnwyr cyffredin economaidd. Gallwch ddarllen erthygl Wales Online yma.
18 Ionawr 2023 – Datganiad Busnes
Ym mis Tachwedd galwodd Sam am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu costau llawn y terfynau cyflymder 20mya. Cadarnhaodd Llywodraeth Cymru y byddai datganiad yn cael ei ryddhau, ond er hynny nid oedd datganiad wedi ymddangos erbyn mis Chwefror. Bu Sam yn herio Llywodraeth Cymru ynglŷn â hyn, ac mae ei gyfraniad yn y Senedd i'w weld ar-lein yma.
2 Chwefror 2023 – Colofn yn y Leader
Defnyddiodd Sam ei golofn yn y Leader i amlinellu sut y bydd terfyn cyflymder 20mya cyffredinol Llywodraeth Cymru yn costio £4.5 biliwn i economi Cymru, ac yn hytrach nag arafu Cymru, y dylai Llywodraeth Cymru fynd ati i gydio yn y llyw a symud Cymru yn ei blaen unwaith eto. Cliciwch yma i ddarllen colofn Sam.
8 Mawrth 2023 – Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Yn ystod sesiwn o Gwestiynau i Weinidog yr Economi yn Senedd Cymru, heriodd Sam y Gweinidog ynghylch effaith y terfyn cyflymder 20mya diofyn newydd ar economi Cymru. Daeth cwestiynau Sam wedi i Lywodraeth Cymru fethu ag egluro effaith economaidd eu polisi newydd, ar ôl i'w papurau eu hunain ddangos y byddai'n costio £4.5 biliwn i economi Cymru.
Mae sylwadau Sam i'w gweld ar-lein yma.
31 Mai – Deiseb i atal y terfyn cyflymer 20mya newydd
Cafodd deiseb yn galw ar Lywodraeth Cymru i atal ei chynllun i osod terfyn cyflymer newydd o 20mya yn ddiofyn ei chau ar ôl cyrraedd bron i 22,000 o lofnodion. Cyflwynodd Pwyllgor Deisebau’r Senedd gais i gynnal dadl ar y mater unwaith eto.
6 Mehefin 2023 – Cyfweliad ar GB News
Cafodd Sam ei gyfweld ynghylch cyflwyno terfyn cyflymder newydd o 20mya gan Nigel Farage ar deledu cenedlaethol, ynghyd â chynrychiolwyr o ymgyrch 20’s Plenty.
Nododd Sam fod Llywodraeth Cymru wedi methu â gwrando ar bobl ledled Cymru, ac amlygodd y gost o £4.5 biliwn i economi Cymru. Gallwch wylio’r cyfweliad ar-lein yma.
2 Awst 2023 – Cyfweliad ar TalkTV
Cafodd Sam ei gyfweld gan Ian Collins ar TalkTV am gyfyngiad cyflymder 20 mya diofyn newydd Llywodraeth Cymru.
Trafododd Sam ac Ian y cymhelliant sy’n sail i gynllun newydd Llywodraeth Cymru. Gallwch wylio’r cyfweliad yn fyw ar-lein yma.
3 Medi 2023 - Cyfweliad ar BBC Radio Wales
Cafodd Sam ei gyfweld gan Vaughan Roderick ar raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder newydd, diofyn o 20mya yng Nghymru. Gallwch wrando ar y cyfweliad ar-lein yma.
12 Medi 2023 - Datganiad Llywodraeth Cymru ar y Terfyn Cyflymder 20mya
Gwnaeth Lee Waters, Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, ddatganiad gerbron Senedd Cymru yn cadarnhau’r bwriad i barhau i osod y terfyn diofyn newydd o 20mya o ddydd Sul 17 Medi. Gallwch wylio’r datganiad ar-lein yma.
13 Medi 2023 - Dadl ar ddiddymu'r Terfyn Cyflymder diofyn o 20mya
Trafododd Aelodau o Senedd Cymru ddiddymu’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya. Siaradodd Llywodraeth Cymru yn erbyn y cynnig i ddiddymu, a gollodd mewn pleidlais. Gallwch wylio cyfraniad Sam ar-lein yma.
27 Medi 2023 - Terfyn cyflymder 20mya cyffredinol yn dod i rym
Y terfyn cyflymder 20mya cyffredinol yn dod i rym.
Medi 2023 - Lansio Deiseb i'r Senedd
Lansio deiseb yn galw ar y Llywodraeth i wyrdroi'r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol ar wefan y Senedd. O fewn dim, hom yw'r ddeiseb sydd wedi'i llofnodi fwyaf yn hanes y Senedd, gyda channoedd ar filoedd o lofnodion. Gallwch weld y ddeiseb ar-lein yma.
22 Medi 2023 - Sam yn rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgyrch
Sam yn rhois diweddariad ar yr ymgyrch hyd yma yn erbyn y terfyn cyflymder 20mya cyffredinol.
23 Medi 2023 - Cyfweliad GB News
Sam yn cael ei gyfweld gan Patrick Christys o GB News ynglŷn â'r terfyn cyflymder 20mya cyffredinol newydd. Gallwch wylio'r cyfweliad isod.
27 Medi 2023 - Pleidlais o ddiffyg hyder
Y Senedd yn trafod cynnig o ddiffyg hyder yng Ngweinidog Trafnidiaeth Mark Drakeford, Lee Waters. Llywodraeth Cymru yn ennill y bleidlais yn gyfforddus gyda chefnogaeth Plaid Cymru.
4 Hydref 2023 - Llywodraeth Cymru yn cael ei herio ynghylch cyllid i gynghorau Lloegr
Sam yn herio Llywodraeth Cymru ar ôl iddi ddod i'r amlwg eu bod wedi gwario dros £200,000 ar gefnogi gweithredu terfynau cyflymder 20mya yn Swydd Gaer a Swydd Gaerloyw. Gallwch wylio'r hyn oedd gan Sam i'w ddweud yma.
Rhowch wybod i Sam beth yw eich barn am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y terfyn cyflymder diofyn o 20mya - cwblhewch yr arolwg isod: